AMDANOM NI

Modurdy Tyn Lon Cyf - Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Mon

Wedi ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl, mae Tyn Lon wedi ennill nifer o wobrau am ragoriaeth yn eu Gwasanaeth i’r Cwsmer, ac wedi ennill y Wobr Genedlaethol bedair gwaith. Yn fyr, gwasanaeth personol a gofal cwsmer yw sylfaen ein busnes.

Tyn Lon Volvo ydi’r lle am werthiannau Ceir Volvo newydd ac ail-law a gofal ar ôl gwerthu. Ar ein gwefan gallwch weld ein stoc cyfredol o geir ail-law, trefnu i fynd â car allan i’w dreialu, trefnu gwasanaeth ar gyfer eich car, neu ddarganfod y cynigion sydd ar gael ar hyn o bryd. Cliciwch ar ‘Contact Us’ i wneud cais am lyfryn neu i’n e-bostio. Gallwch ein ffonio ar 01248 714259, neu pam ddim ymweld â ni i weld ein dewis anhygoel o geir Volvo.

Mae Modurdy Tyn Lon wedi ei leoli ym mhrydferthwch Ynys Môn a dyma’r unig werthwr ceir Volvo yng Ngogledd Cymru. Gyda blynyddoedd maith o brofiad yn y maes masnach ceir, rydym yn hyderus y gallwn wneud y profiad o brynu eich cerbyd nesaf yn un hamddenol a phleserus. Felly, am gynigion ardderchog, dewch i Fodurdy Tyn Lon ble gallwn ddiwallu eich holl anghenion a’ch disgwyliadau am bris fydd wrth eich bodd!